Ffydd LHDTC+

Cyflwyniad i’r prosiect [Fersiwn PDF]

Teitl gweithredol: ‘Fydd, gobaith a chariad: profiadau LHDTC+’

Nod:

Archwilio a hyrwyddo dealltwriaeth o brofiadau ffydd LHDTC+ yng Nghymru.

Amcanion:

  1. Casglu cyfres o fyfyrdodau/tystiolaethau personol byr gan unigolion LHDTC+
  2. Datblygu cyfres o brintiau celf i ddangos profiadau LHDTC+ o ffydd
  3. Arddangos y myfyrdodau a’r printiau celf gyda’i gilydd: yn gorfforol ac ar-lein
  4. Defnyddio’r arddangosfa i hyrwyddo dealltwriaeth a deialog am brofiadau LHDTC+ o ffydd

Gwybodaeth i gyfranogwyr 

  • Arweinydd y prosiect: David Robinson
  • E-bost: contact@davidrobinsonartist.com
  • Rhif ffôn: 07910 116646

Annwyl ymatebwr,
Rydw i’n eich gwahodd i gyfrannu myfyrdod/tystiolaeth ysgrifenedig fel rhan o arddangosfa deithiol ac arddangosfa ar-lein. Bydd yr arddangosfa’n archwilio sabwyntiau LHDTC+ am ffydd yma yng Nghymru, a bydd yn teithio i wahannol leoedd – er engrhaifft eglwysi/capeli a lleoedd seciwlar.

Hoffwn i gasglu hyd at 20 o fyfyrdodau gan wahannol unigolion. Ochr yn ochr â hyn, byddaf yn creu cyfres o brintiau celf i ddangos agweddau ar yr myfyrdodau, i’w harddangos ochr yn ochr â nhw.

Darllenwch y dudalen hon yn ofalus a byddwch yn hyderus eich bod yn deall ei chynnwys cyn penderfynu a ddylech gymryd rhan.

Os byddaf yn cytuno i gymryd rhan, beth fyddwch yn gofyn i mi ei wneud?

Hoffwn i chi ysgrifennu 100-250 o eiriau yn Saesneg neu’n Gymraeg, ar gynifer o’r canlynol ag y dymunwch:

  • ‘Yr hyn rydw i wedi’i ddysgu am hunaniaeth, rhywioldeb a chariad’
  • ‘Fy nhaith ffydd/beth mae ffydd yn ei olygu i mi’
  • ‘Bod yn agored ac yn onest am fy hunaniaeth/rhywioldeb a ffydd’
  • ‘Pobl sydd wedi cefnogi a maethu fy ffydd’
  • ‘Fy hoff ddarn o’r ysgrythur’
  • ‘Fy ngobaith a’m breuddwydion ar gyfer y dyfodol’

Hoffwn i chi anfon eich myfyrdod ataf drwy e-bost gan ddefnyddio’r ffurflen i gyfranogwr (gweler isod), gan lofnodi gyda’ch enw, neu ffugenw. Os yw’n well gennych gyflwyno myfyrdod drwy lawysgrif, plîs ffoniwch fi i drefnu.

Mae gwahoddiad i chi gyflwyno llun ohonoch eich hun i’w arddangos ochr yn ochr â’ch testun, ond mae hyn yn ddewisol.

Beth fydd yn digwydd i’r myfyrdod/llun a ddarparaf?

Byddaf yn cadw un copi o’ch llun a myfyrdod, wedi’u diogelu gan gyfrinair, ar fy ngliniadur. Pan fydd yr holl myfyrdodau’n barod, byddaf yn argraffu fersiynau dwyieithog o bob un ar fyrddau mowntio yn barod ar gyfer yr arddangosfa deithiol, a hefyd yn eu huwchlwytho i wefan arddangosfa ar-lein.

Wrth i mi dderbyn myfyrdodau gan gyfranogwyr, byddaf yn dechrau datblygu cyfres o brintiau celf i ddangos y gwahanol themâu/pynciau a drafodwyd. I weld y math o brintiau rwy’n eu gwneud, ewch i’r dudalen printiau o’r wefan hon. Rwy’n anelu at wneud y printiau yn ystod 2026, a dechrau’r arddangosfa deithiol/ar-lein ddechrau 2027.

Beth yw’r manteision sy’n gysylltiedig â chymryd rhan?

Drwy gyfrannu myfyrdod, byddwch yn helpu i hyrwyddo dealltwriaeth a deialog am brofiadau ffydd LHDTC+ yma yng Nghymru.

Beth yw fy hawliau fel cyfranogwr?

  • Yr hawl i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y prosiect
  • Yr hawl i dynnu’n ôl o gymryd rhan ar unrhyw adeg
  • Yr hawl i gael unrhyw ddata wedi’i dynnu’n ôl a’i ddinistrio
  • Yr hawl i gael eich dad-adnabod mewn unrhyw ffotograffau a fwriadwyd ar gyfer eu cyhoeddi’n gyhoeddus, cyn y pwynt cyhoeddi, ar eich cais.
  • Yr hawl i gael atebion i unrhyw gwestiynau ar unrhyw adeg.

Hysbysiad Preifatrwydd

Bydd eich data personol yn cael ei brosesu gan David Robinson gyda’ch caniatâd penodol.
Bydd eich data personol yn cael ei ddileu ar eich cais.

Ffurflen i gyfranogwyr [Fersiwn Word] [Fersiwn PDF]

Os hoffech chi gymryd rhan, cliciwch ar unrhyw un o’r dolenni uchod i lawrlwytho’r ffurflen i gyfranogwr. Mae’r ffurflen yn cynnwys lle i’ch myfyrdod a’ch caniatâd i gymryd rhan.